Cynghrair y Cenhedloedd – Ymweliad ag Aberystwyth

Rhwng 20 Mehefin a 29 Gorffennaf 2016 bydd arddangosfa fechan yn cael ei chynnal yn Llyfrgell Hugh Owen, Prifysgol Aberystwyth, i goffáu ymweliad Ffederasiwn Rhyngwladol Cymdeithasau Cynghrair y Cenhedloedd ag Aberystwyth 90 mlynedd yn ôl. Yn Dresden roedd y Ffederasiwn fod i gynnal ei gynhadledd a hynny fel rhan o ddathlu caniatáu i’r Almaen ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Roedd hyn wedi cael ei benderfynu yng Nghynhadledd Locarno yn Hydref 1925, ond mewn cyfarfod arbennig ym mis Mawrth 1926 – a oedd i gadarnhau’n swyddogol derbyn yr Almaen i’r Gynghrair – cafwyd League of Nationsgwrthwynebiadau a rhaid oedd gohirio’r penderfyniad. Oherwydd hynny roedd hi’n anodd i’r Ffederasiwn gyfarfod yn Dresden ac roedd gwir berygl na fyddai’r gyngres yn cae
l ei chynnal o gwbl y flwyddyn honno.

Un o arweinyddion, a phrif gefnogwr ariannol, Cymdeithasau Cynghrair y Cenhedloedd yng Nghymru a Gwledydd Prydain oedd David Davies, AS Sir Drefaldwyn, ŵyr i’r enwog David Davies, Llandinam, a brawd i’r chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies, Gregynog. Yn ogystal â bod yn ŵr busnes a dyngarwr, roedd hefyd yn Llywydd Prifysgol Aberystwyth, ac er mwyn achub cyngres 1926 cynigiodd ei chynnal yn Aberystwyth. Derbyniwyd ei gynnig, ac yn dilyn tri mis o waith paratoi gan Gyngor Tref Aberystwyth, swyddogion y Brifysgol a chydweithrediad parod trigolion Aberystwyth a’r cylch, cynhaliwyd cyngres lwyddiannus yn y dref rhwng 29 Mehefin a 3 Gorffennaf 1926.

Yn ôl y rhestr o’r mannau lle bu’r Ffederasiwn yn cyfarfod cyn ac ar ôl hynny, mae Aberystwyth – a Chymru – mewn cwmni da iawn: 1919 Paris. 1919 Llundain. 1919 Brwsel. 1920 Milan. 1920 Genefa. 1922 Prague. 1923 Fienna. 1924 Lyon. 1925 Warsaw. 1926 Aberystwyth. 1927 Berlin. 1928 Yr Hâg. 1928 Prague. 1929 Madrid. 1934 Brwsel. 1936 Genefa.

Mae Llyfrgell Hugh Owen ar agor rhwng 8.30 a 5.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y gwyliau.

Leave a comment

Filed under Uncategorized

Son of a preacher man, Thomas Charles Edwards, Prifathro cyntaf Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth

Fel hyfforddai AberYmlaen, rwyf wedi derbyn y dasg o ymchwilio Archif Sefydliadol y brifysgol, casgliad o bapurau a ffotograffau sy’n dyddio o mor bell yn ôl â 1824. Un enghraifft o’r ffynonellau sydd wedi eu cynnwys yn yr Archif Sefydliadol yw casgliad o ohebiaeth dau Brifathro Picture - T. C. Edwards - 1cyntaf y coleg. Am yr wythnos ddiwethaf, rwyf wedi bod yn darllen llythyrau’r Prifathro cyntaf, sy’n cynnig cipolwg i ddigwyddiadau blynyddoedd cynnar y coleg, o safbwynt y dyn a oedd yn gyfrifol amdano.

Thomas Charles Edwards oedd y dyn yma, gweinidog a phregethwr Methodistaidd Calfinaidd a gafodd ei ethol yn 1872 yn Brifathro cyntaf Coleg Aberystwyth, Coleg Prifysgol cyntaf Cymru. Profodd y Coleg ddechrau anodd, gan wynebu llawer o dreialon yn y degawdau yn dilyn ei sefydliad, a gellir olrhain ymatebion personol Edwards i’r rhain trwy ei ohebiaeth o’r cyfnod.

Gellir gweld un enghraifft drawiadol yn y llythyr sy’n dyddio o’r 30ain o Fehefin, 1883, sy’n awgrymu ei bod hi’n ansicr os oedd y coleg yn mynd i oroesi hyd yn oed. Dengys T.C. Edwards ei benderfyniad i ddal ati “fel petai [y coleg] yn mynd i oroesi ei anawsterau presennol.”

Letter - 30 June, 1883 - extract 1

Ar y pryd, roedd morâl y myfyrwyr yn is nag erioed gyda rhai’n bwriadu gadael i fynd i’r coleg yn Lerpwl neu Goleg Owen (Manceinion), gan gredu y byddai’r rhai a arhosai yn Aberystwyth “yn nychu a marw’n araf.” Yn naturiol, mae’r rhan fwyaf o lythyr y Prifathro’n ymwneud â’r cwestiwn o sut i argyhoeddi’r myfyrwyr, yn ogystal â gweddill y wlad, nad oedd hyn yn wir.

Letter - 30 June, 1883 - extract 2

Letter - 30 June, 1883 - extract 3

Yn rhyfeddol, er ei ddyfalbarhad yn arwain y Coleg yn y cyfnodau anodd hyn, ystyriwyd y Prifathro ei hun yn un o’r achosion mwyaf o anhawster i’r sefydliad. Mae’n debyg bod hyn oherwydd y gofynion a osodwyd ar ei amser gan ei ymrwymiad i bregethu. Eto, cawn ymdeimlad o deimladau personol Edwards ar y pwnc hwn yn ei ohebiaeth, o lythyr a ysgrifennodd ar y 10fed o Hydref, 1884.  O ddarllen y llythyr, daeth yn amlwg bod y Prifathro y pryd hynny yn teimlo’n dueddol, er yn anfodlon, i gynnig ei ymddiswyddiad i Gyngor y Coleg. Roedd un aelod o’r Cyngor yn gwthio i wahardd gweinidogion rhag meddiannu’r swydd o Brifathro, ac roedd y Cambrian News hyd yn oed, wedi cyhoeddi erthygl ar y pwnc, a honnai bod ei bregethu ymhlith yr anawsterau mwyaf roedd rhaid i’r Coleg ymdopi ag ef.  Er hyn, yn y pen draw ni chafodd y prifathro ei orfodi i ymddiswyddo ar yr achlysur yma, a pharhaodd i ddal swydd y Prifathro tan iddo ymddiswyddo’n wirfoddol yn 1891, yn rhannol am resymau iechyd ac yn rhannol i ddilyn yn ôl traed ei Dad fel Pennaeth Coleg Diwinyddol Bala.

Letter - 10 Oct, 1884 - extract 1

Leave a comment

Filed under Archifau, Prifysgol Aberystwyth

Thomas Gywnn Jones 1871-1949

Yn ddiweddar rydym wedi catalogio casgliad bach o lyfrau Gwyddeleg a roddwyd i’r Brifysgol gan T. Gwynn Jones, cyn aelod o Adran Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a deiliad Cadair Gregynog mewn Llenyddiaeth Gymraeg o 1919 tan ei ymddeoliad ym 1937. Mae’r casgliad yn adlewyrchu diddordeb Jones mewn ieithoedd Celtaidd, a’i gysylltiad hir sefydlog ag Iwerddon, a gryfhawyd gan ei ymweliadau â’r wlad tua diwedd y 19eg a dechrau’r 20fed Ganrif.

Roedd ambell eitem hynod ddiddorol ymhlith y casgliad, gan gynnwys yr argraffiad hwn o 1922 o’r cyfieithiad  (rhannol) cyntaf, yn ôl a ddeallwn, o Don Quixote i unrhyw iaith Geltaidd gan Peadar Ua Laoghaire (Peter O’Leary).

Don Quixote T.G.J.

Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys argraffiad 1943, wedi’i lofnodi, o: Danta eagsamla agus beanla cunta onta ag Dubglas de h-ide (Cerddi amrywiol a gyfieithwyd i’r Saesneg gan Douglas Hyde). Hyde oedd Prif Weinidog cyntaf Iwerddon, a wasanaethodd rhwng 1938 ac 1945 ac mae nifer o’i lyfrau yn y casgliad.
Mae’r llyfrau eraill o gasgliad T. Gwynn Jones yn cynnwys:

Oċt sgéalta ó Ċoillte Máġaċ. An Craoiḃín Aoiḃinn; do scríoḃ ó ḃéal Tomáis Uí Ċaṫasaiġ.

Aḃráin ġráḋa ċúige Ċonnaċt / ar na gcruinniuġaḋ agus ar na ḃfoillsiuġaḋ de’n ċéad uair le Duḃglas De híde (ân Craoiḃín Aoiḃinn) ; ar na gcur amaċ anois arís agus tuilleaḋ aḃrán leó.

An gráḋ agus ân ġruaim / Seosaṁ mhac Grianna do scríoḃ.

Sgealta a fili na Romha

T.G.J. SignatureGellir dod o hyd i lyfrau eraill o’r casgliad drwy chwilio am T. Gwynn Jones yn Primo ac edrych am: T Jones (Thomas Gwynn), 1871-1949 cyn berchennog, yn y rhestrau. Edrychwch am ei lofnod yn y llyfrau.

Leave a comment

Filed under Llyfrgell, Y Rhyfel Byd Cyntaf

Nid wrth ei glawr y mae barnu llyfr!

Wrth gatalogio llyfrau o Lyfrgell yr Hen Goleg daethom ar draws dau bamffledyn a oedd, fel y gwelwch o’r llun isod, yn ymddangos yn ddigon di-nod. Gan eu bod wedi’u staenio, wedi treulio ar yr ymylon a lliw’r cloriau wedi pylu dros y blynyddoedd, gallent yn hawdd iawn fod wedi cael eu hanwybyddu. Ond gall golwg fod yn dwyllodrus, ac o edrych yn agosach ar y ddau lyfr bach bregus hyn daeth eu gwerth gwirioneddol i’r amlwg.

 

Uncle Tom

Mae’n ymddangos eu bod yn un o’r ddau gyfieithiad Cymraeg cynharaf o Uncle Tom’s Cabin gan Harriet Beecher Stowe. Cyhoeddwyd y cyfieithiad talfyredig hwn gan ‘Y Lefiad’ (un o ffugenwau William Williams) yn Abertawy yn 1853, blwyddyn yn unig ar ôl yr argraffiad cyntaf yn Boston.  Maent yn eitemau prin iawn ac o’n hymchwil cychwynnol rydym ond wedi llwyddo i ddod o hyd i un copi arall (yr ail Gyfrol yn unig).
Mae’r rhain yn weithiau prin a phwysig felly. Efallai eu bod wedi gweld dyddiau gwell, ond fel y mae Shakespeare yn ein hatgoffa yn The Merchant of Venice, “nid aur yw popeth melyn”, ac adlewyrchir eu gwerth gan y ffaith eu bod bellach yn cael eu cadw yn Ystafell Llyfrau Prin Llyfrgell Hugh Owen.

Leave a comment

Filed under Llyfrgell, Y Rhyfel Byd Cyntaf

Dathlu Canmlwyddiant a Hanner Sefydlu Gwladfa Patagonia

 Patagonia

Ar 28 Mai 1865 hwyliodd llong y Mimosa o Lerpwl i’r Ariannin gyda 153 o Gymry ar ei bwrdd, ac ar 28 Gorffennaf glaniodd y gwladychwyr yn y Bae Newydd, lle saif dinas Porth Madryn heddiw. Enwyd Porth Madryn ar ôl cartref Love Jones-Parry ym Mhen Llŷn, gŵr a oedd wedi teithio i Batagonia gyda Lewis Jones yn 1862 i weld a oedd y wlad yn addas i’w gwladychu. Yn dilyn adroddiadau ffafriol (adroddiadau a oedd yn llawer rhy ffafriol yn ôl rhai) gan Lewis Jones, darbwyllwyd nifer o Gymry i ymsefydlu yno. Roedd hyn yn rhan o’r ymfudo mawr a fu o Gymru yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan adawodd miloedd o bobl mewn ymgais i osgoi tlodi, gormes landlordiaid a chael rhyddid i addoli.

Ar ôl eu siom cychwynnol gydag ansawdd y tir, bwriodd y Cymry ati i ymsefydlu yn eu gwlad newydd, a thrwy waith caled yn adeiladu rhwydwaith o ffosydd dŵr, llwyddwyd i droi’r wlad ddiffaith yn dir ffrwythlon. Roedd y berthynas dda a fu o’r dechrau rhwng y Cymry a’r Tehuelchiaid, trigolion brodorol Chubut, hefyd wedi bod yn bwysig i’w llwyddiant.

Sefydlwyd trefi yn fuan gan y Cymry: Caer Antur, sef Rawson heddiw (1865), Trelew (1871), a’r Gaiman (1875), ac erbyn canol yr 1880au roedd y rhan fwyaf o dir Dyffryn Camwy wedi ei feddiannu a’i drin ac yn cynhyrchu gwenith o’r radd flaenaf a enillodd fedalau aur mewn arddangosfeydd rhyngwladol ym Mharis a Chicago.

Yn 1885 dymunai’r gwladychwyr symud ymhellach i’r gorllewin er mwyn ymsefydlu’n gadarnach yn y wlad, a gyda chaniatâd llywodraeth yr Ariannin, teithiodd mintai o ddynion a elwid yn Rifleros i gyfeiriad mynyddoedd yr Andes i chwilio am fwy o dir i’w feddiannu. Ym mis Tachwedd y flwyddyn honno cyrhaeddwyd rhan o’r wlad a oedd yn addas ar eu cyfer a’i enwi’n Cwm Hyfryd. Ar 16 Hydref 1888 cafodd yr ardal ei sefydlu’n swyddogol gan ysgogi enw arall ar yr ardal, sef Bro Hydref, ac wrth i’r boblogaeth dyfu felly hefyd y tyfodd trefi Trevelin ac Esquel. (Gweler y map).

Daeth y cyfnod o fewnlifiad mawr o Gymru i ben yn 1914 a chychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf, ond erbyn hynny amcangyfrifir bod yn agos i 2,500 o Gymry wedi ymsefydlu yn y Wladfa ym Mhatagonia, a bod tua 4,000 o bobl o dras Gymreig yn byw yn nhalaith Chubut.

O fewn ychydig amser i’r glanio yn 1865, tyngodd yr ymfudwyr cyntaf deyrngarwch i’r Ariannin, ac er iddynt gadw cysylltiad agos â Chymru, ystyriai nifer eu hunain bellach yn Archentwyr.  Serch hynny, mynnwyd cadw’r iaith Gymraeg a nifer o draddodiadau’r hen wlad. Canolwyd llawer o’r bywyd cymdeithasol o gwmpas y capeli a adeiladwyd ganddynt yn y trefi a’r ardaloedd gwledig, ac mae nifer o’r eisteddfodau a sefydlwyd yn Nyffryn Camwy, Porth Madryn a’r Andes yn dal mewn bri heddiw gyda phwyslais arbennig ar Eisteddfod yr Ifanc sy’n cael ei chynnal bob mis Medi ac Eisteddfod y Wladfa a gynhelir yn Nhrelew ar benwythnos olaf mis Hydref.

Rhwng 20au a 60au’r ugeinfed ganrif, bu llai o gysylltiad rhwng Cymru a’r Wladfa, ac fel y bu’r Rhyfel Byd Cyntaf yn ffactor bwysig cyn 1920, teimlwyd effeithiau’r Ail Ryfel Byd hefyd. Ond ar ôl dathlu canmlwyddiant y glaniad yn 1965, aildaniwyd y berthynas rhwng y ddwy wlad gyda nifer cynyddol o Gymry’n ymweld â’r Wladfa bob blwyddyn a llawer o’r Wladfa yn dod i Gymru i chwilio am eu gwreiddiau. Yn 1997, dan arweiniad Robert Owen Jones, dechreuwyd y Cynllun Dysgu Cymraeg a olygai byddai athrawon o Gymru yn cynorthwyo yn Ysgol Feithrin y Gaiman ac yn  Ysgol yr Hendre ac mae’r cynllun hwn yn parhau hyd heddiw.

Mae eleni a dathliadau 150 mlwyddiant sefydlu’r Wladfa yn gyfle arall i’r ddwy wlad agosáu at ei gilydd a dathlu’r berthynas a’r cysylltiadau sy’n dal yn gryf rhyngddynt. Ond nid y Cymry yw’r unig rai sy wedi cael eu swyno gan y Wladfa a’i hanes.

Bruno DerrickRoedd Bruno Derrick yn fyfyriwr yn Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth, rhwng 1982 ac 1985. Yn 1987 ymunodd â’r Archif Cenedlaethol, yn Chancery Lane, Llundain, i ddechrau, cyn symud i Kew yn 1993. Gweithiodd yn nifer o adrannau gan gynnwys Copïo Cofnodion ac E-Fynediad ac Adran Cyngor a Gwybodaeth Cofnodion cyn dyfod yn Arbenigwr Cofnodion Morwrol a Thrafnidiaeth. Fel rhan o’i waith teithiodd Bruno i’r Wladfa ar gyfer dwy Gynhadledd Ryngwladol ar Wladychu Patagonia ym mis Hydref 2004 a Gorffennaf 2006 ar wahoddiad y gymuned Gymraeg yn rhanbarth Chubut. Ysgogodd hyn ei ddiddordeb yn hanes ymfudo’r Cymry fel dengys ei ddarlith, Bara brith on the Pampas – the Welsh in Patagonia, ar wefan yr Archif Cenedlaethol, a draddodwyd ym mis Mawrth 2010. Bu farw Bruno Derrick yn sydyn ym mis Rhagfyr 2012 a chyflwynodd ei deulu ei gasgliad o lyfrau ac adnoddau am y Wladfa i Lyfrgell Hugh Owen er cof amdano ac ar wahân i’r cyfrolau Cymraeg, daw’r holl eitemau yn yr arddangosfa gyfredol ar Lawr D Llyfrgell Hugh Owen o’r rhodd honno.

Ceir gwybodaeth am arddangosfa’r Archif Cenedlaethol i ddathlu sefydlu Gwladfa Patagonia yn y blog canlynol:
http://blog.nationalarchives.gov.uk/blog/150-years-welsh-colony-patagonia/

Leave a comment

Filed under Uncategorized

Felix Mendelssohn

Ganwyd Jakob Ludwig Felix Mendelssohn Bartholdy, a ddaeth yn un o gyfansoddwyr ac arweinyddion mwyaf dylanwadol y mudiad Rhamantaidd, yn Hamburg yn 1809. Yn bianydd ac organydd talentog, fe’i hystyrid hefyd gan rai fel un o gyfansoddwyr mwyaf athrylithgar a galluog cerddoriaeth glasurol. Mae rhai beirniaid wedi mynd mor bell â’i osod yn gyfartal i Wolfgang Amadeus Mozart.

Ymddengys fod dyfodol Mendelssohn fel cerddor wedi ei ragweld o’i ddyddiau cynnar, gan i’w athrawon a’i rieni sylweddoli ei fod yn rhyfeddod cerddorol. Tyfodd ei allu fel cerddor a chyfansoddwr a daeth i amlygrwydd mawr ar draws yr Almaen. Bu hyn yn ei dro yn fodd o ailennyn diddordeb yng ngweithiau cyfansoddwyr eraill megis Johann Sebastian Bach.

Llun o Mendelssohn gan yr arlunydd James Warren Childe (1778–1862), 1839.

Llun o Mendelssohn gan yr arlunydd James Warren Childe (1778–1862), 1839.

Ond ni chyfyngwyd enwogrwydd Mendelssohn i bobl yr Almaen yn unig, gan i nifer o’i brif weithiau, megis y Symffoni Albanaidd a’r agorawd Yr Hebrides, gael eu perfformio gyntaf ym Mhrydain, yr ymwelodd â hi ddeg gwaith yn ystod ei fywyd. Roedd yr 1830au a’r 1840au cynnar yn flynyddoedd o boblogrwydd cynyddol i Mendelssohn. Yn 1842 perfformiodd gyngherddau preifat i’r Frenhines Fictoria a’r Tywysog Albert a oedd yn edmygwyr mawr o’i waith. Y flwyddyn ganlynol sefydlodd un o sefydliadau cerddoriaeth pwysicaf yr Almaen, sef Conservatoire Leipzig (Prifysgol Cerdd a Theatr Leipzig bellach). Ceir yn ei waith sawl symffoni, conserti, oratorios a cherddoriaeth siambr, gyda’r Agorawd i A Midsummer Night’s Dream ymhlith yr enwocaf. Ystyrid ei Caneuon Heb Eiriau yn un o’r unawdau piano mwyaf enwog.

Roedd blynyddoedd olaf bywyd Mendelssohn yn rhai o drasiedïau mawr. Rhwng 1835 ac 1847 effeithiodd marwolaethau ei dad, ei fam a’i chwaer yn drwm arno gan beri iselder meddwl a achosodd ddirywiad yn ei iechyd. Bu farw yn 1847. Credai llawer nad oedd wedi cyrraedd uchelfannau ei allu, a digwyddiadau blynyddoedd olaf ei fywyd yn peri i rai ei alw’n ‘artist arteithiol’.

Ei Lythyrau

Drwy haelioni a rhoddion caredig Syr Hugh Owen a George Powell, mae Prifysgol Aberystwyth yn berchen ar nifer o lythyrau a sgorau cerddorol a gyfansoddwyd gan Mendelssohn ei hun. Ysgrifennwyd y llythyrau rhwng 1832 ac 1847, sef cyfran helaeth o’i fywyd, ac maent yn datgelu gwybodaeth newydd am sawl agwedd ar ei weithgareddau a’i yrfa na wyddem lawer amdanynt cynt.

Llythyr Mendelssohn 1 – yn sôn am ddigwyddiadau cymdeithasol ym Mharis (1832).

Llythyr Mendelssohn 1 – yn sôn am ddigwyddiadau cymdeithasol ym Mharis (1832).

Mae gennym un deg saith llythyr i gyd, wedi eu hysgrifennu at amryw o bobl. Ymhlith pethau eraill, maent yn cyfeirio at ddigwyddiadau cymdeithasol, ei fywyd cerddorol, ei weithiau creadigol, ynghyd â cheisiadau am eirda. Yn 2014, drwy grant hael iawn gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Cerddoriaeth a CyMAL, gwnaethpwyd gwaith cadwraethol arnynt gan ei gwneud hi’n bosibl i ymchwilwyr y dyfodol eu hastudio.

Leave a comment

Filed under Archifau, Prifysgol Aberystwyth

Yr Athro Hermann Ethé

Fel y nodwyd ar ein Blog ar 11 Rhagfyr 2013, digidwyd deunydd o Archifau a Chasgliadau Arbennig Hugh Owen llynedd a’u cynnwys yn y prosiect Y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Profiad Cymreig sy wedi ei leoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru: http://cymru1914.org/cy. Eleni byddwn yn gosod ar dudalennau gwe ein Casgliadau Arbennig erthyglau fydd yn gosod y deunyddiau hyn yn eu cyd-destun hanesyddol.

hermann-ethe-pic

Ethé (ar y chwith â’r farf) gydag aelodau eraill o staff Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth.

Mae’r erthygl gyntaf sy’n ymwneud â’r Athro Hermann Ethé, Athro Ieithoedd Dwyreiniol yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth ar ddechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, a’r ymgyrch leol i’w symud o’r Brifysgol, yn awr ar gael ar dudalennau’r Casgliadau Arbennig: http://www.aber.ac.uk/cy/is/collections/special-collections/ww1/.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Christopher T. Husbands, Darllenydd Emeritws, Ysgol Economeg a Chymdeithaseg Gwleidyddol Llundain, am ganiatáu i ni atgynhyrchu’r adran ar Hermann Ethé o’i astudiaeth hirach, German-/Austrian-origin Professors of German in British universities during the First World War: the lessons of four case studies.

Hermann Ethe plaque

Leave a comment

Filed under Archifau, Prifysgol Aberystwyth, Y Rhyfel Byd Cyntaf