Darganfyddiad diweddar yn y llyfrgell yw copi o Commentary upon the Whole Book of Judges (1615) gan Richard Rogers, wedi ei fynegeio a’i anodi’n helaeth gan William Dowsing (1596-1668), y delwddrylliwr o’r Rhyfel Cartref. Roedd Dowsing yn Biwritan ymroddedig, ffermwr a thirfeddiannwr, a milwr, a feddai ar ei lyfrgell ei hun o destunau crefyddol – ei bwrcasiad cynharaf a nodir oedd gweithiau anghyfreithlon gan wahanwyr a argraffwyd yn yr Iseldiroedd ac a guddgludwyd i Loegr.
Ym mis Mawrth 1643, ar ddechrau’r Rhyfel Cartref, ysgrifennodd Dowsing lythyr ffyrnig at bregethwr lleol o Biwritan yn cwyno am “groesau rhyfygus , darluniau ofergoelus ac olion pabyddiaeth” (Oxford Dictionary of National Biography – ODNB) a welai o gwmpas tref a phrifysgol Caergrawnt. Mae’n siŵr bod sylwadau fel hyn wedi ennill ffafr iddo gydag awdurdodau’r dydd, gan ei fod wedi cael ei benodi’n Brofost Milwrol byddinoedd y Senedd yn nwyrain Lloegr.
Cyfarwyddwyd Dowsing gan ei bennaeth, Iarll Manceinion, i weithredu fel ‘Comisiynydd er dinistrio cofebau delwaddoliaeth ac ofergoel’. Ac aeth rhagddo i weithredu ordeinhad Seneddol a gofnodwyd yn y Journal of the House of Commons am 26 Awst 1643, “yn ymwneud â chymryd ymaith pob Cofgolofn ofergoelus a delwaddoliaeth o eglwysi’r Colegau, Cadeirlanau ac eglwysi a chapeli eraill plwyfi”.
Cymerai ei waith o ddifrif – byddai ef a’i ddirprwyon (pob un ohonynt yn gymdogion a pherthnasau iddo) yn ymweld â phob un o gapeli un ar bymtheg coleg Caergrawnt, a chofnododd ymweliadau ag wyth deg dau o blwyfi eraill yn swydd Caergrawnt. Fe ymwelon nhw hefyd â dros 147 plwyf yn swydd Suffolk.
Yn ystod yr ymweliadau hyn, canolbwyntiwyd ar wastatáu’r canghellau, tynnu i ffwrdd reiliau’r allor, dileu arysgrifau ar feddau neu ar wydr, a thorri “pob cynrychiolaeth ar wydr, pren neu garreg o bersonau’r Drindod neu’r llu nefolaidd” (ODNB). Yn ddiweddarach symudwyd organau hefyd. Cofnododd y mwyafrif o’i weithredoedd mewn dyddiadur (sydd ar gael ar-lein), gan gynnwys y cofnod hwn am gapel Coleg Peterhouse, Caergrawnt:
“1. Peter-House. We went to Peter-house, 1643, December 21, with officers and soldiers, and in the presence of Mr. Hanscott, Mr. Wilson, the President Mr. Francis, Mr. Maxey, and other Fellows, Dec. 20, and 23. We pulled down two mighty great angells, with wings, and divers other angells, and the 4 Evangelists, and Peter, with his keies on the chappell door and about a hundred chirubims and angells, and divers superstitious letters in gold.”
a’r cofnod ar gyfer eglwys plwyf Madingley, swydd Caergrawnt:
“133. March 6 …There was 31 pictures superstitious, and Christ on the cross and two thieves by him, and Christ and the Virgin Mary in another window, a Christ in the steeple window. Ordered the steps to be levelled and 14 cherubim in wood to be taken down…”
Treuliodd Dowsing oriau lawer yn darllen ac yn mynegeio llyfr Rogers – dwy awr y nos am ddeufis ac 16 tudalen bob gyda’r nos. Ceir un nodiad ar y drwg o gadw gwallt hir gan ddweud bod y Barnwr Popham ym Mrawdlys Bury ar ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg wedi gorchymyn un aelod o’r Uchel-Reithgor i gael ei wallt wedi ei eillio, am ei fod yn warth i’r Frenhines Elizabeth.