Tag Archives: gwyddoniaeth

Syr Isaac Newton

Mae gennym yn Llyfrgell Hugh Owen gasgliad o gyfrolau prin sy’n ymwneud â’r gwyddonydd enwog Syr Isaac Newton. Yn eu plith mae argraffiad cynnar (1721) o Opticks, gan Newton ei hun lle y trodd ar ei ben ddamcaniaeth gydnabyddedig y dydd ynglŷn ag amser – fod golau ‘pur’ o’r haul yn wyn ac heb liw. Trwy ddadansoddi ymddygiad golau drwy brismau, profodd mai’r gwrthwyneb oedd yn wir, a bod i olau saith lliw gwahanol.  Hefyd yn yr arddangosfa ceir argraffiad 1760 o’i waith Philosophiæ Naturalis Principia Mathematica – gwaith eithriadol o bwysig er sefydlu gwyddoniaeth mathemateg.

isaac newton 4

 

Mae gennym hefyd gopi o argraffiad 1672 o Geographia Generalis  gan Bernhard Varen a gyhoeddodd Newton ei hun. Ynddo mae Varen yn trafod egwyddorion cyffredinol daearyddiaeth fel pwnc gwyddonol drwy ddefnyddio gwybodaeth y cyfnod. Mae hyn yn cynnwyd ffeithiau mathemategol ynglŷn â dimensiwn a symudiadau’r ddaear, yn ogystal â’u cymwysiadau cyffredinol mewn mordwyo a gwneud mapiau.

isaac newton 2

 

Yn ddiweddar daeth llyfr o lyfrgell Newton ei hun i olau dydd, sef Glossarium Antiquitatum gan William Baxter, a gyhoeddwyd yn 1719 ac a ddaeth i feddiant Newton pan oedd yn Feistr y Bathdy Brenhinol. Mae platiau llyfr diweddarach yn dangos fod y gyfrol yn dal ym meddiant Newton pan fu farw

Leave a comment

Filed under Llyfrau prin, Prifysgol Aberystwyth