Tag Archives: Henry Ellis

Llyfrgellyddion Enwog

Yma ym Mhrifysgol Aberystwyth mae llyfrgellwyr wastad wedi cynorthwyo myfyrwyr a staff i ddod o hyd i wybodaeth a sicrhau bod yr holl adnoddau angenrheidiol ar gael ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwilio. Mae’r arddangosfa ddiweddaraf o lyfrau prin yn Llyfrgell Thomas Parry yn cynnwys nifer o gyfrolau a phapurau sy’n eiddo i’r Brifysgol sy’n gysylltiedig â llyfrgellwyr hanesyddol enwog.

Natural History of Oxfordshire (1677) gan Robert Plot gyda nodiadau gan Henry Ellis

plot-oxfordshire

Daeth Henry Ellis yn Brif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig yn 1805, ac arhosodd yn y swydd tan 1856 – roedd yn hynafiaethydd ac ysgolhaig nodedig. Ei gynorthwywr, a’i olynydd yn y swydd yn yr Amgueddfa Brydeinig oedd Anthony Panizzi, a ddyblodd nifer y llyfrau (gan wneud y casgliad y llyfrgell fwyaf yn y byd) a gwthio drwyddo nifer o newidiadau.

Yn gynharach dadleuodd Ellis yn erbyn rhai o’r newidiadau hyn mewn pwyllgor o’r llywodraeth – dywedodd pe na bai’r amgueddfa’n cau am dair wythnos yn yr hydref, byddai’r lle yn dod yn sicr yn afiach, a byddai agor ar Sadyrnau yn gamgymeriad, gan mai dyna pryd roedd rhannau mwyaf direidus o’r boblogaeth y grwydr (Oxford Dictionary of National Biography).  Roedd y copi hwn o Natural History of Oxfordshire gan Robert Plot yn eiddo i Ellis pan oedd yn fyfyriwr yng Ngholeg y Drindod Caergrawnt yn yr 1790au.

Continue reading

Leave a comment

Filed under Llyfrau prin, Prifysgol Aberystwyth